Y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol

Health and Social Care Committee

 

 

Ann Jones AC AM

Cadeirydd y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol

Chair, Communities, Equalities and Local Government Committee

 

 

 

 

5 Mawrth 2012

 


Annwyl Ann

 

Y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol – Darpariaeth annigonol o doiledau cyhoeddus

 

Byddwch yn ymwybodol bod deiseb, sy’n galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i ymchwilio i’r goblygiadau i iechyd a lles cymdeithasol o gau toiledau cyhoeddus, wedi dod i law y Pwyllgor Deisebau. Mae hefyd yn gofyn iddo annog Llywodraeth Cymru i gyhoeddi canllawiau ar gyfer llywodraeth leol sy’n sicrhau bod darpariaeth ddigonol o doiledau cyhoeddus ar gael.

 

Cyfeiriwyd y ddeiseb at y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol ym mis Mehefin 2011 a chynhaliwyd ymchwiliad undydd ar 19 Ionawr 2012 i ystyried y goblygiadau i iechyd a lles cymdeithasol o gael darpariaeth annigonol o doiledau cyhoeddus. Deallaf hefyd i’r Pwyllgor Deisebau ysgrifennu at y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol i ofyn a fyddai’n fodlon ystyried elfennau llywodraeth leol a chydraddoldeb y ddeiseb. Mae adroddiad ar y dystiolaeth a ddaeth i law wedi’i atodi i’r llythyr hwn, er gwybodaeth.

 

Yn seiliedig ar y dystiolaeth a ddaeth i law, mae’r Pwyllgor o’r farn bod yr achos dros gael darpariaeth well o doiledau cyhoeddus, er lles iechyd cyhoeddus, yn un cryf. Yn ychwanegol at hynny, mae’r Pwyllgor yn credu bod y dystiolaeth a gasglwyd yn awgrymu bod achos prima facie dros gynnal ymchwiliad pellach i ddarpariaeth awdurdodau lleol o gyfleusterau toiledau cyhoeddus. Gwnaethpwyd cyfres o awgrymiadau ymarferol gan dystion o ran sut y gellid cynllunio a darparu gwasanaethau cyhoeddus yn well, er mwyn cael gwell canlyniadau i iechyd cyhoeddus. Rydym o’r farn y gallai pobl sydd â mwy o arbenigedd mewn materion llywodraeth leol ymchwilio i’r atebion posibl hyn.

 

Mae’r Pwyllgor wedi cytuno y dylwn i, fel Cadeirydd y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol, ddwyn y mater hwn i’ch sylw. Pan fydd eich Pwyllgor yn ystyried ei flaenraglen waith, rwy’n gobeithio y gallwch ystyried y mater hwn ac ymchwilio iddo ymhellach.

Rwyf hefyd yn anfon copi o’r llythyr hwn at y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a’r Gweinidog Llywodraeth Leol a Chymunedau i dynnu eu sylw at y gwaith pwysig hwn.

 

Yn gywir

Description: MarkSignature

Mark Drakeford AC AM

Cadeirydd - Chair

 

Cc      Lesley Griffiths AC, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

          Carl Sargeant AC, y Gweinidog Llywodraeth Leol a Chymunedau